Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

 

CYP(4)-01-11 – Papur 1

 

Tystiolaeth gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau

 

1.    Cyflwyniad

 

1.1 Gwella'r system addysg yng Nghymru sydd wrth graidd blaenoriaethau'r Llywodraeth hon ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'r Llywodraeth hon wedi datgan yn glir ein bod yn dymuno datblygu rhaglen uchelgeisiol, greadigol a radical ar gyfer adnewyddu'r system addysg. Mae tair o'n blaenoriaethau allweddol yn canolbwyntio ar wella deilliannau i blant a theuluoedd. Y blaenoriaethau hynny yw gwario mwy ar wasanaethau rheng flaen yn yr ysgol; dyblu nifer y plant sy'n elwa ar ddarpariaeth Dechrau'n Deg; a mynd i'r afael â diweithdra ymhlith ein pobl ifanc. Ein huchelgais yw sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael dechrau gwych mewn bywyd. Roedd ein cynllun gweithredu deinamig i gyflawni hyn yn rhan o’n maniffesto, ac erbyn hyn mae'n diffinio'r hyn yr ydym yn ei wneud fel Llywodraeth.

 

1.2 Mae addysg yn sylfaenol i gyflawniad personol ac i'n llewyrch fel cenedl. Fodd bynnag, mae'n gwneud mwy na siapio cyfleoedd bywyd unigolion neu sicrhau llwyddiant economaidd. Mae addysg hefyd yn sylfaenol i feithrin cymdeithas gyfiawn, gynhwysol a theg.

 

1.3 Yn ôl amryw o ffynonellau, er ein bod wedi gweld gwelliannau sylweddol ers datganoli, mae'n glir nad yw safonau addysg yng Nghymru mor dda ag y gallent fod, ac nad ydynt ychwaith mor dda ag y dylent fod. Mae'n amlwg hefyd nad yw'r system yn llwyddo i gyflawni deilliannau da yn gyson ar gyfer ein pobl ifanc. Yn ogystal â thystiolaeth asesiadau PISA, mae deilliannau ar ddiwedd y cyfnodau allweddol yn ogystal ag arholiadau allanol yn cefnogi'r ddadl fod rhoi'r gorau i gyhoeddi data ar berfformiad (tablau cynghrair) yng Nghymru wedi cyfrannu at y bwlch, sy'n cynyddu, rhwng cyrhaeddiad yng Nghymru a Lloegr. 

 

1.4 Yn fy marn i, mae gennym ni yng Nghymru dri phrif fater i fynd i'r afael â hwy: llythrennedd; rhifedd; a lleihau'r effaith y mae amddifadedd yn ei chael ar gyrhaeddiad addysgol. Mae hyn yn golygu canolbwyntio'n benodol ar ddysgu, atebolrwydd, cydweithio a chynyddu i’r eithaf botensial y gweithlu addysgu.

 

1.5 O ganlyniad, yn rhinwedd fy nghyfrifoldeb dros blant a phobl ifanc, rwy'n croesawu'r cyfle i egluro wrth y Pwyllgor fy ngweledigaeth a'm blaenoriaethau ar gyfer y 18 mis nesaf.

 

 

 

2.    Atebolrwydd

 

2.1 Ym mis Chwefror, cyhoeddais raglen gynhwysfawr ar gyfer gwella ysgolion. Mae hwn yn gynllun gweithredu 20 pwynt, i godi safon yr addysg sy'n cael ei darparu yng Nghymru. 

 

2.2 Comisiynais hefyd adroddiad ar Strwythur y Gwasanaeth Addysg yng Nghymru, a gafodd ei gynnal gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen annibynnol, o dan gadeiryddiaeth Viv Thomas. Roedd yr adolygiad hwn yn dadansoddi perfformiad darparwyr ar bob lefel: ysgolion, colegau, awdurdodau lleol, sefydliadau rhanbarthol a chenedlaethol. Daeth y grŵp o hyd i enghreifftiau o gyflawniad eithriadol, ond gwelwyd hefyd fod anghysondeb yn y safon, a hynny i’r fath raddau a oedd siomedig.

 

2.3 Un o'r materion a nodwyd yn glir yng Nghymru yw'r anawsterau o ran capasiti sy’n deillio o’r ffaith bod ein hawdurdodau yn fach iawn, ac mae'n gwbl amlwg bod angen inni gydweithio lawer mwy. Rhaid i'r system fod yn dryloyw hefyd, er mwyn sicrhau ein bod yn galw perfformiad ein dysgwyr i gyfrif ar bob lefel, ac yn herio'r perfformiad hwnnw os nad yw pethau'n dda. Byddwn yn defnyddio ymyriadau a phwerau, a hynny mewn modd priodol a chyson, lle nad oes cynnydd yn cael ei wneud. Mae Estyn yn adrodd bod lefel ac effeithiolrwydd yr her y mae awdurdodau lleol yn ei gosod i'w hysgolion yn amrywio, a bod awdurdodau lleol ar y cyfan yn ymateb yn effeithiol i fethiannau. Serch hynny, mae llawer ohonynt yn perfformio'n llai effeithiol o ran atal canlyniadau gwael i arolygiadau ysgol, ac o ran gosod her i'w hysgolion i weithio i gyflawni rhagoriaeth.

 

 

3. Codi Safonau Ysgolion

 

3.1 I ganolbwyntio ar safonau, rwyf wedi sefydlu Uned Safonau Ysgolion, a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y system yn gwella yn gyffredinol. Bydd yr Uned yn gweithio mewn partneriaeth â'r sector addysg ar bob lefel i nodi cryfderau a gwendidau, rhannu arfer da a chefnogi gwelliannau.

 

3.2 Mae'r Uned yn casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth hanfodol a gwybodaeth am systemau er mwyn meithrin cyd-ddealltwriaeth o berfformiad hanesyddol, tueddiadau, patrymau a meincnodau, ac i ddeall beth yw rhagoriaeth.

 

3.3 Bydd yr Uned yn gweithio gyda Chonsortia ac yn defnyddio archwiliadau i adolygu perfformiad a nodi camau â blaenoriaeth. Bydd yn trafod yn rheolaidd â’r consortia/awdurdodau lleol i gytuno ar y cynnydd a'r camau a fydd eu hangen i gefnogi gwelliannau. Mae archwiliadau peilot yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, a'r bwriad yw cynnal archwiliadau mwy ffurfiol yn yr hydref.

 

3.4 Mae'r Uned Safonau hefyd yn datblygu system bandio, sydd wedi'i chynllunio i sicrhau ein bod yn rhoi mwy o bwyslais ar berfformiad a chynnydd addysgol.

 

3.5 Mae bandio yn rhannu ein hysgolion yn grwpiau ar sail ffactorau amrywiol, er mwyn nodi'r hyn a ddylai gael blaenoriaeth wrth gynnig cefnogaeth wahaniaethol, yn ogystal â ffactorau y gall y sector gyfan ddysgu ohonynt. Ymhlith dangosyddion eraill, bydd presenoldeb yn cael ei ddefnyddio i fesur perfformiad ysgolion, er mwyn sicrhau bod pwyslais ar y maes hwn. Yn achos triwantiaid, byddwn yn dilyn polisi dim goddefgarwch. Yr agwedd bwysicaf ar y broses hon fydd y gefnogaeth a'r her a fydd yn ei dilyn, yn ogystal â'r arferion da a fydd yn cael eu rhannu. Bydd yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cyfeirio ein hadnoddau yn y modd mwyaf effeithiol i’r meysydd sydd eu hangen fwyaf.

 

3.6 Byddwn yn datblygu fframwaith a chanllawiau statudol ar gyfer gwella ysgolion i gefnogi’r broses bandio. Bydd y rhain yn allweddol ar gyfer sicrhau gwelliannau hirdymor, sydd hefyd yn gynaliadwy.

 

3.7 Bydd disgwyl i ysgolion wneud cynnydd ar y targedau ar gyfer pob disgybl, er mwyn sicrhau bod pob un yn gwneud gwerth un flwyddyn academaidd o gynnydd yn ystod un flwyddyn galendr. Rydym yn disgwyl i bob ysgol osod targedau ar gyfer gwelliant parhaus erbyn diwedd y flwyddyn.

 

 

4 Mae Strwythurau Addysg yn effeithiol ac effeithlon 

 

 

 

 

 

 

5. Ysgolion a Chyrff Llywodraethu

 

 

 

 

 

 

 

6. Llythrennedd a Rhifedd

6.1 Mae llythrennedd a rhifedd yn sgiliau sylfaenol. Nid yw'r sgiliau hyn yn cyrraedd y lefel angenrheidiol ar hyn o bryd, felly mae llawer o gamau yn eu lle i sicrhau bod perfformiad dysgwyr yn gwella yn y meysydd hyn:

·         Mae'r Cyfnod Sylfaen wedi cael ei ganmol yn gyffredinol ar draws y sector, ac mae rhieni yn gefnogol iddo. Fodd bynnag, rhaid inni sicrhau nad yw sgiliau llythrennedd yn llithro yn sgil y Cyfnod Sylfaen. I'r perwyl hwn, bydd asesiad sylfaenol o anghenion datblygu pob plentyn yn cael ei gynnal wrth iddynt ddechrau yn y Cyfnod Sylfaen. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei ddefnyddio i bennu eu hanghenion dysgu yn y dyfodol.

·         Byddwn yn sefydlu Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol newydd. Fframwaith ar gyfer dysgwyr 5 - 14 oed fydd hwn. Bydd profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol yn cyd-fynd â'r fframweithiau hyn, a byddant yn dangos sut y mae disgyblion yn perfformio yn erbyn meini prawf cenedlaethol ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd. Byddant yn caniatáu i ysgolion a rhieni/gofalwyr weld sut y gallant gefnogi eu plant hyd eithaf eu gallu.

·         O ganlyniad, bydd mwy o gysondeb rhwng asesiadau athrawon. Bydd hyn yn sicrhau bod asesiadau parhaus yn cael eu cynnal i fynd i'r afael ag arferion addysgu sy’n amrywio. Yng nghyd-destun Llythrennedd a Rhifedd, bydd y rhain yn weithredol erbyn hydref 2012.

·         Rydym wedi creu Cynllun Llythrennedd Cenedlaethol, a gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar, sy'n canolbwyntio ar blant 7-11 oed. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys rhaglenni darllen dal i fyny, yn ogystal â rhaglenni ar gyfer ymestyn y disgyblion mwyaf galluog. At hynny, bydd Prawf Darllen Cenedlaethol yn cael ei gyflwyno erbyn blwyddyn academaidd 2011-2012; yn Gymraeg ac yn Saesneg.

·         Byddwn yn datblygu hefyd Gynllun Rhifedd Cenedlaethol a fydd yn cyflwyno Prawf Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer blwyddyn academaidd 2012-2013.

·         Yn dilyn deilliannau asesiadau PISA 2009, ac yn sgil nodi bod angen cymhwyso sgiliau mewn modd mwy ymarferol, rydym yn bwriadu cynnwys, fel rhan o’r asesiadau ysgol i ddisgyblion 15 oed, asesiadau sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol o sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer dysgu. O ganlyniad, rydym wedi annog pob ysgol i ganolbwyntio ar ddysgu llythrennedd, rhifedd a datrys problemau mewn modd sy'n seiliedig ar sgiliau.

7. Y Gweithlu Addysgu

 

7.1 Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a’r Consortia yn cefnogi athrawon a sicrhau eu bod yn cael mwy o barch.  

 

7.2  Er mwyn gwella deilliannau dysgwyr, rhaid inni gynhyrchu athrawon â chymwysterau gwell, sy'n gallu sicrhau bod y dysgu a'r addysgu yn fwy effeithiol yn y dosbarth. Mae'n hanfodol rhannu arferion gorau, a bydd nod arweinwyr y systemau, a chymryd rhan weithredol yn y Cymunedau Dysgu Proffesiynol, yn bwysig i wneud cynnydd ar y gwaith o wella addysg, ac i gynnal y cynnydd hwnnw.

 

7.3 Mae penaethiaid yn chwarae rhan sylfaenol i sicrhau bod gwelliannau yn cael eu gwneud, a byddwn yn darparu’r gefnogaeth a’r arfau sydd eu hangen arnynt i godi safonau yn eu hysgolion. Rydym yn ymgynghori ar y newidiadau i’r trefniadau rheoli perfformiad ar gyfer Penaethiaid. Yn achos pob athro, bydd cyswllt rhwng rheoli perfformiad a Safonau Proffesiynol a Datblygiad Proffesiynol Parhaus, er mwyn sicrhau bod yr elfennau hyn yn gweithio’n fwy effeithiol i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud o ran gwella’r dysgu a’r addysgu.

 

7.4 Rhaid i bob addysgwr feddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd rhagorol, beth bynnag yw ei gefndir neu ei faes arbenigedd. Bydd un diwrnod HMS y flwyddyn yn canolbwyntio ar lythrennedd a rhifedd i bob athro.

 

7.5 Mae nifer o fesurau yn cael eu datblygu ar hyn o bryd hefyd i atgyfnerthu’r trefniadau ar gyfer y cyfnod Ymsefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar ar gyfer pob athro newydd gymhwyso yng Nghymru. Byddant yn cynnwys:

 

 

 

Rydym hefyd yn:

 

 

7.6 Mae’n bwysig hefyd ein bod yn ceisio newid diwylliant y Datblygiad Proffesiynol Parhaus drwy ddatblygu system a fydd yn sicrhau bod athrawon yn gweithio gyda’i gilydd, fel rhan o’u harfer dyddiol, ac yn gweithio i gefnogi’r broses o ddatblygu dulliau addysgu rhagorol drwy gyfrwng Cymunedau Dysgu Proffesiynol. 

 

8. Isadeiledd

8.1 Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo, ar y cyd ag awdurdodau lleol ac eraill, i wella’r ystad addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae mwy na £477 miliwn, o arian pontio’r rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif ac o gronfeydd cyfalaf eraill, wedi’i neilltuo ar gyfer y cyfnod o 2009-10 i 2014-15. Bydd yr arian hwn yn cefnogi 66 o brosiectau; o ysgolion cynradd i brifysgolion. 

8.2 Cafodd rhaglen yr arian pontio ei sefydlu fel rhagflaenydd i’r rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, fel rhan o gronfa gyfalaf unedig ar gyfer cyllid cyfalaf addysg yn gyffredinol.    

8.3 Yn sgil y toriadau i’r ddarpariaeth cyfalaf, o ganlyniad i’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyllideb lai o faint, bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu ei hamserlen ar gyfer cyfrannu at brosiectau. Mae swyddogion yn dal i drafod ag awdurdodau lleol i benderfynu ar amserlen ar gyfer dechrau ar brosiectau a’u cyllido.

8.4 Yn y Gymru Ddigidol, rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi dysgu drwy TGCh,  gan sicrhau bod gan ein hathrawon a’n pobl ifanc y sgiliau i weithio’n effeithiol ac yn ddiogel yn y byd digidol modern.


 

9. Agenda Diwygio’r Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN)

 

9.1 Ein nod yw diwygio’r system bresennol o roi datganiadau i blant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Arbennig (AAA). Mae fy Adran i wedi comisiynu prosiectau peilot, a sefydlwyd mewn partneriaeth ag wyth awdurdod lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill, i ystyried opsiynau amrywiol eraill ar wahân i’r fframwaith statudol presennol. Disgwylir i’r prosiectau peilot hyn ddod i ben eleni, a bydd adroddiad gwerthuso a dadansoddiad cost a budd yn cael eu cynnal ddechrau 2012.

 

9.2 Bydd angen deddfu er mwyn gweithredu’r newidiadau, a’r nod yw y byddwn hefyd yn trosglwyddo cyfrifoldeb dros gyflawni’r dyletswyddau presennol yn Neddf Dysgu a Sgiliau 2000 ar gyfer dysgwyr ag anawsterau dysgu neu anableddau dros 16 mlwydd oed sydd wedi’u lleoli mewn lleoliad AB arbennig oddi wrth Weinidogion Cymru i’r awdurdodau lleol.

 

9.3 Rydym hefyd yn ystyried trosglwyddo cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer darpariaeth AAA ôl-16 mewn ysgolion arbennig ac mewn lleoliadau y tu allan i’r sir, a rhoi cymorth ychwanegol i ddarpariaeth AAA ôl-16 mewn ysgolion prif ffrwd, o’r grant penodol i’r Grant Cynnal Refeniw (RSG).

 

9.4 Canlyniad y newidiadau hyn yn gyffredinol fydd sefydlu patrwm cydlynol o wasanaethau, o dan arweiniad consortia o awdurdodau lleol, a fydd yn darparu gwasanaethau aml-asiantaeth ar sail anghenion y dysgwr mor agos â phosibl i gartref y dysgwr.

 

10 Adroddiad Etifeddiaeth

 

10.1 Mae’r Pwyllgor a’i Adroddiad Etifeddiaeth yn argymell y dylai’r Pedwerydd Cynulliad barhau i graffu ar y mater o doiledau ysgolion sy’n annigonol, ac nad ydynt mewn cyflwr da.

 

10.2 Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pryderon a fynegwyd yn yr adroddiad "Codi’r Clawr". Mae wedi ymrwymo hefyd i gymryd camau i fynd i’r afael â’r pryderon hynny, yn unol â’r fframwaith atebolrwydd cyfredol sy’n gosod cyfrifoldeb ar yr Awdurdodau Lleol dros ddarparu toiledau sy’n ddigonol i ddisgyblion. 

 

10.3 I’r perwyl hwn, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr awdurdodau lleol a chynrychiolwyr Comisiynydd Plant Cymru i gynhyrchu canllawiau arfer gorau ar gyfer awdurdodau cyfrifol i’w cynorthwyo i ymgymryd â’u dyletswyddau i gadw toiledau yn lân ac mewn cyflwr da.

 

10.4 Rydym wedi ymgynghori ar y canllawiau hynny, ac mae’r gwaith o baratoi’r canllawiau terfynol yn mynd rhagddo, a’r bwriad yw eu cyhoeddi yn yr hydref. I gefnogi hyn, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynnal ymgyrchoedd "Gwyliwch y Germau" a "Dysgwch Wers i Germau" i godi proffil glanweithdra mewn ysgolion a lleoliadau addysg a gofal plant eraill. Nod yr ymgyrchoedd hyn yw sicrhau bod plant, a’r rheini sy’n gyfrifol amdanynt, yn cael gwybod sut i ddefnyddio cyfleusterau toiled yn effeithiol, ac mewn modd glanwaith, a’u bod yn cael eu cefnogi i wneud hynny. 

 

10.5 Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar sail fformiwla i awdurdodau lleol ar gyfer gwaith cynnal a chadw cyffredinol ynghyd â’u cyllid cyfalaf cyffredinol eu hunain. Gallent ddefnyddio’r cyllid hwn i fynd ati i adnewyddu a gwella toiledau, ac rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol barhau i gyllido’r gwaith hwn yn y dyfodol, a hynny fel rhan o’u cynllun buddsoddi cyfalaf ehangach. Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod unrhyw adeilad newydd y mae’n ei gyllido yn cydymffurfio ag arfer da a rheoliadau perthnasol o ran manylion yr adeilad, gan gynnwys mewn perthynas â thoiledau ysgol.

 

 

 

11. Casgliadau

 

11.1 Rwyf wedi nodi yn y Papur hwn y camau cyflenwi allweddol sy’n eu lle neu sy’n cael eu datblygu a fydd yn gwella safon addysg yng Nghymru. O ystyried maint y portffolio addysg, a’r rôl bwysig y mae’n ei chwarae o ran ymrwymiadau ehangach Llywodraeth Cymru, nid wyf wedi trafod yr holl waith sy’n mynd rhagddo ym mhob maes. Os yw’r Pwyllgor yn dymuno, byddaf yn darparu rhagor o wybodaeth.

 

11.2 Rhaid inni beidio â gorffwys ar ein rhwyfau ar unrhyw lefel o’r system addysg; mae hynny’n wir yn achos aelodau etholedig, gweinyddwyr a’r gweithlu addysgu. Y dysgwyr sydd bwysicaf, ac maen nhw’n haeddu’r gorau. Fodd bynnag, mae parodrwydd a chymhelliant pob un sydd ynghlwm wrth ddarparu addysg yng Nghymru i fwrw ati â’r newidiadau a sicrhau gwelliant wedi creu argraff arnaf i.

 

11.3 Drwy gydweithio ar draws y sector, a thrwy ganolbwyntio’n benodol ac yn barhaus ar safonau addysg yng Nghymru, rwy’n argyhoeddedig y byddwn yn gallu cyflawni deilliannau gwell i ddysgwyr yng Nghymru. Byddwn i’n croesawu cyfraniad y Pwyllgor hefyd wrth fwrw ati â’r gwaith hwn.